Canolfan Santes Melangell
Beth yw Canolfan Santes Melangell?
Y Staff
Pwy mae'r Ganolfan yn gallu eu helpu?
Beth ydym ni'n ei gynnig?
Cyfleusterau ac Adnoddau
Trefnu Ymweliad
Sut mae CSM yn cael ei hariannu
Sut i ddod o hyd i ni
Sut mae Canolfan Santes Melangell yn cael ei hariannu
Mae Canolfan Santes Melangell yn dibynnu ar haelioni unigolion, eglwysi a mudiadau i alluogi parhad ein gwaith.
If you have a query relating to spiritual direction or to counselling please contact the Shrine Guardian/Centre Director confidentially by email: revdlynette@btopenworld.com or telephoning the centre and asking to speak to her personally.
Rydym angen eich help er mwyn cynnal a datblygu ein darpariaeth gwasanaeth. Gallwch gyfrannu mewn sawl ffordd:
• Cofio am waith Canolfan Santes Melangell yn eich gweddïau
• Ystyried gwirfoddoli eich sgiliau ac arbenigedd
• Dod yn Gyfaill Canolfan Santes Melangell
• Cefnogwch waith y Ganolfan yn ariannol
Os ydych yn gallu rhoi cymorth ariannol i waith y Ganolfan:
Gwneud cyfraniad drwy'r post neu dros y ffôn:
Anfonwch eich siec, yn daladwy i 'Canolfan Santes Melangell' i:
Canolfan Santes Melangell, Pennant Melangell, Llangynog, Powys SY10 0HQ
Cofiwch roi eich enw a chyfeiriad i ni, er mwyn i ni allu diolch i chi.
I gyfrannu rhodd drwy gerdyn credyd neu ddebyd:
ffôniwch 01691 860408
Gadwch rodd i Ganolfan Santes Melangell yn eich ewyllys:
Cysylltwch â'r Ganolfan am fanylion pellach ar 01691 860408
Bydd eich rhodd i Ganolfan Santes Melangell yn mynd ymhellach gyda Rhodd Cymorth
Os ydych yn talu treth yn y DU, bydd Rhodd Cymorth yn cynyddu gwerth eich cyfraniad i ni. Am bob £1 a roddwch, byddwn yn derbyn 28 ceiniog gan Gyllid y Wlad. Cliciwch yma i wneud datganiad Rhodd Cymorth. Y cwbl sy'n rhaid i chi ei wneud yw rhoi eich enw a chyfeiriad llawn i ni.
Cyfrinachedd
Ni fydd y manylion a roddwch i Ganolfan Santes Melangell yn cael eu hanfon ymlaen i unrhyw unigolyn na sefydliad arall.