Canolfan Santes Melangell
Beth yw Canolfan Santes Melangell?
Y Staff
Pwy mae'r Ganolfan yn gallu eu helpu?
Beth ydym ni'n ei gynnig?
Cyfleusterau ac Adnoddau
Trefnu Ymweliad
Sut mae CSM yn cael ei hariannu
Sut i ddod o hyd i ni
Beth yw Canolfan Santes Melangell?
Mae Canolfan Santes Melangell yn gweithredu mewn cyd-destun
Cristnogol, yn cefnogi pobl mewn angen drwy fyfyrio, cynghori a gofal
bugeiliol, drwy ddarparu:
• Sesiynau cynghori, i unigolion a grwpiau, i siarad am anawsterau mewn dull adeiladol, i ddysgu a thyfu mewn dealltwriaeth a delio ā heriau bywyd yn fwy effeithiol
• Man i fyfyrio sydd yn bell o bwysau a threfn arferol bywyd bob dydd.
• Cyfleusterau ar gyfer addysg, digwyddiadau hyfforddi, encilio a dyddiau tawel.
• Lleolir Canolfan Santes Melangell mewn man prydferth ym mhen draw Dyffryn Tanat wrth droed y Berwyn. Daw'r enw a'r ysbrydoliaeth o Eglwys Santes Melangell, cysegrfa o'r 12fed ganrif.
Sefydlwyd y Ganolfan yn 1998 fel Canolfan Cymorth Cancr a Gweinidogaeth Iachau. I ddechrau, canolbwyntiodd y ganolfan ar gefnogi pobl yn dioddef o gancr a'u teuluoedd. Deuai pobl i ymweld ā'r Ganolfan hefyd i chwilio am gefnogaeth ar gyfer ystod o faterion iechyd meddwl ac emosiynol.
Yn 2003 ehangodd y Ganolfan ei gweithgareddau tu hwnt i'r rhai sy'n dioddef o gancr, gan newid ei henw i Ganolfan Santes Melangell, gyda'r bwriad ehangach o gefnogi oedolion gydag anghenion emosiynol, ysbrydol ac iechyd meddwl.
Mae llawer o bobl yn defnyddio'r Ganolfan fel lle i droi iddo pan ddaw hi i'r pen, ar ōl cael trafferth, am nifer o resymau, i gael gafael ar wasanaethau cynghori a chefnogi confensiynol. Mae'r Ganolfan yn gefnogi pobl o bob ffydd a phobl heb unrhyw ffydd.