Canolfan Santes Melangell
Beth yw Canolfan Santes Melangell?
Y Staff
Pwy mae'r Ganolfan yn gallu eu helpu?
Beth ydym ni'n ei gynnig?
Cyfleusterau ac Adnoddau
Trefnu Ymweliad
Sut mae CSM yn cael ei hariannu
Sut i ddod o hyd i ni
Trefnu Ymweliad
Mae Canolfan Santes Melangell yn agored o Ddydd Mawrth i Ddydd Iau o 10am i 4pm ac ar adegau eraill drwy drefniant ac ar gyfer digwyddiadau arbennig. Os ydych yn gwneud siwrnai neilltuol, cofiwch ffonio o flaen llaw, er mwyn ein helpu ni i osod digon o amser o'r neilltu i ymateb i'ch anghenion.
Gallwch weld cyfarwyddiadau am sut i gyrraedd y Ganolfan drwy glicio yma.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y gwasanaethau cynghori a therapiwtig, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr a Therapydd, Y Parchedig Linda Mary Edwards os gwelwch yn dda.
Bydd hi'n trefnu sesiwn gychwynnol lle byddwch yn trafod eich anghenion a'ch gofynion. Wedyn, byddwch un ai'n cael cynnig gwasanaeth priodol yn y Ganolfan neu'n cael help i gael gafael ar ffynonellau cefnogaeth eraill.
Os oes gennych ddiddordeb mewn meysydd eraill o waith y Ganolfan, yr ydych eisiau trefnu ymweliad grŵp, diwrnod o dawelwch neu logi ein cyfleusterau, yna cysylltwch â'r Gweinyddwr.