Croeso i Eglwys Cysegrfa Santes Melangell
Santes o'r 7fed ganrif oedd Melangell. Yn ôl traddodiad, daeth yma o
Iwerddon ac yr oedd yn byw fel meudwyes yn y dyffryn. Un diwrnod, roedd
Brochwel, Tywysog Powys, allan yn hela a chododd ysgyfarnog, a geisiodd
loches o dan glogyn Melangell. Dihangodd y cŵn hela ac yr oedd dewrder a
sancteiddrwydd Melangell wedi creu argraff ar y Tywysog. Rhoddodd y
dyffryn iddi fel noddfa, a daeth Melangell yn Abades cymuned grefyddol
fechan. Ar ôl ei marwolaeth, parhawyd i anrhydeddu ei choffadwriaeth, a
bu Pennant Melangell yn fan pererindod am ganrifoedd lawer. Mae
Melangell yn parhau i fod yn nawddsant ysgyfarnogod.
Yn
eglwys Santes Melangell, uwchben y sgrin, mae ffigwr efydd o'r Crist
atgyfodedig gyda'i freichiau ar led, yn symbol o'r Iesu tosturiol, yn
croesawu'r rhai sydd wedi'u hysigo ac yn dioddef, y rhai ofnus a choll a
phawb sy'n ceisio cariad iachaol Duw yn eu bywydau.
Eglwys Santes Melangell
Bu Eglwys Gristnogol yma am dros 1200 o flynyddoedd. Mae ei lleoliad,
mewn man hynod o hardd yng nghesail mynyddoedd y Berwyn, yn dawel a
naturiol. Mae'r eglwys yn sefyll mewn mynwent gron, a ddefnyddiwyd yn yr
Oes Efydd, gyda chylch o goed yw hynafol o'i hamgylch ac amcangyfrifir
eu bod yn ddwy fil o flynyddoedd oed. Mae rhannau o'r adeilad yn dyddio
o'r 12fed ganrif er mai dim ond yn 1990 y gorffennwyd y rhan ddiweddaraf,
sef ailadeiladu'r gromfan ar ei sylfeini gwreiddiol. Yr argraff a geir
yw eglwys Normanaidd syml, a harddwyd ac a goleddwyd yn gariadus dros y
blynyddoedd.
Mae'r eglwys yn
cynnwys sgrin dderw wych o'r 15fed ganrif gyda cherfiadau sy'n
dweud stori Melangell a'r Tywysog Brochwel. Mae dwy ddelw o'r Canol
Oesoedd hefyd, a chredir bod un ohonynt yn cynrychioli'r santes; yn
ogystal, ceir bedyddfaen Normanaidd, pulpud, canhwyllyr a bwrdd y deg
gorchymyn o'r cyfnod Sioraidd, cyfres o gerfiadau cerrig o'r ysgyfarnog
gan y cerflunydd, Meical Watts, ac Asen y Gawres, sy'n ddirgelwch.
Trysor mwyaf yr eglwys yw cysegrfa Santes Melangell o'r 12fed ganrif.
Chwalwyd hon ar ôl y Diwygiad Protestannaidd ac adeiladwyd ei cherrig,
wedi'u cerfio â chymysgedd rhyfeddol o fotiffau Celtaidd a Romanésg, i
waliau yr eglwys a phorth y fynwent. Cawsant eu hail-roi at ei gilydd yn
y ganrif ddiwethaf ac yn awr, maent wedi cael eu hailgodi yn y gangell.
Mae'n creu cofadail drawiadol, unigryw ym Mhrydain a disgrifiwyd hi'n
ddiweddar gan ysgolhaig blaenllaw fel un 'o arwyddocâd pan-Ewropeaidd'. Gosodwyd esgyrn, a briodolwyd i'r santes, yn y gysegrfa. Mae'r eglwys yn
adeilad rhestredig, Gradd 1: Mae arweinlyfr darluniadol ar gael, yn
adrodd ei hanes.
Yn 1987, roedd yr eglwys mewn cyflwr mor wael nes ei bod yn amhosibl ei hatgyweirio ac yr oedd angen gwaith adfer cynhwysfawr arni os oedd am gael ei hachub. Dechreuwyd y gwaith hwn yn 1988 o dan law'r Parchedig Paul Davies a'i wraig, Evelyn, a gorffennwyd ef yn 1992 ar gostau o £170,000.
Nid oes cynulleidfa barhaol yma. Mae eglwys y plwyf yn Llangynog. Eglwys pererinion fu Eglwys Santes Melangell erioed, a daw ymwelwyr o bob man ym Mhrydain a thu hwnt. Yn yr haf, daw grwpiau o eglwysi a chapeli eraill i'n gwasanaeth prynhawn dydd Sul yn aml, gyda phaned a chacen i ddilyn, ac mae partïon o bererinion yn trefnu ymweliadau yn ystod yr wythnos. Ni cheir unrhyw waddol na chefnogaeth ariannol o'r Eglwys na'r Wladwriaeth. Gobeithiwn y byddwch eisiau cyfrannu at gynnal yr adeilad hardd hwn a'r weinidogaeth sy'n digwydd yma.
Mae Pennant Melangell yn lle sydd tu hwnt i eiriau ac mae'n bell i ffwrdd o ruthr bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain; lle mae Duw yn siarad yn y distawrwydd a lle mae pobl yn cael cyfle i brofi ymdeimlad o'r Bendigaid. Mae'r eglwys yn agored bob dydd ar gyfer gweddi ac addoli ac yr ydym yn croesawu pob pererin ac ymwelydd. Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi ar eich pererindod a gobeithiwn y bydd ymdeimlad parhaol o dangnefedd Crist yn mynd oddi yma gyda chi.